Yr ymatebion sy’n ofynnol gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

·         Costau blynyddol hyfforddi staff y Cynulliad yn ystod y Trydydd Cynulliad ac effeithiolrwydd yr hyfforddiant hwnnw i gynorthwyo staff i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg.

·         Y gwasanaethau hyfforddiant yn y Gymraeg sydd ar gael i staff

Gwelir isod ddadansoddiad o gostau blynyddol darparu hyfforddiant yn y Gymraeg i staff y Cynulliad dros gyfnod y Trydydd Cynulliad.

Cyfnod

Gwariant

Mai – Rhag 2007

£5,720.96

Ion – Rhag 2008

£22,213.73

Ion – Rhag 2009

£16,589.30

Ion – Rhag 2010

£18,538.58

Ion – Ebrill 2011

£6,716.75

Cyfanswm y gwariant

£69,779.32

 

Caiff hyfforddiant yn y Gymraeg ac ymwybyddiaeth o’r iaith eu hannog ar bob lefel i’n cynorthwyo i gyflawni ein dyhead i fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Bydd staff sy’n dymuno ymgymryd â hyfforddiant yn y Gymraeg yn nodi’r Gymraeg fel gweithgaredd dysgu yn eu hadroddiadau Rheoli Perfformiad ac Adolygu Datblygiad. 

Ysgol Iaith Acen Cyf sy’n darparu cyrsiau mewnol ar hyn o bryd, o lefel “Cyn-fynediad” i’r rhai sy’n dechrau o’r newydd, i’r lefel Hyfedredd uchaf. Pan fyddant yn cwblhau modiwl, caiff staff eu hasesu’n ffurfiol cyn y gwneir penderfyniad ynghylch a ydynt am fynd ymlaen i’r lefel nesaf. Gall staff ddewis dilyn cyrsiau gyda’r nos a chyrsiau preswyl hefyd.

Bydd hyfforddiant yn y Gymraeg yn cael ei gyflwyno i staff newydd fel rhan o’u cwrs cynefino corfforaethol.  Bydd y staff yn cael gwybod am ein cyfrifoldebau o ran yr iaith, a sut y bydd modd iddynt hwy gyfrannu at gyflawni ein hamcanion o ran dwyieithrwydd.

·         Y broses a ddilynwyd wrth ddewis y rhaglenni meddalwedd cyfieithu

Comisiwn y Cynulliad

Assembly Commission

AC(4)2011(6) Papur 2

Dyddiad: 24 Tachwedd 2011

Amser:  9.30–11.30

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd

Enw’r awdur a’i rhif ffôn: Non Gwilym, est 8647

 

Darn allan o bapur Comisiwn y Cynulliad a nodir uchod:

 

3.3   Yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref, bu swyddogion y Cynulliad, gyda’r bwriad o roi penderfyniad y Comisiwn ar waith, yn:

·        ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar y datblygiadau technolegol diweddaraf i gynorthwyo gwasanaethau cyfieithu. Yn sgil yr ymgynghoriad, comisiynodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ymchwil newydd, annibynnol ar gyfieithu peirianyddol a’r iaith Gymraeg, a gaiff ei gwblhau erbyn canol mis Rhagfyr.*  Hefyd bu swyddogion mewn seminar gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar Dechnoleg a Chyfieithu ym mis Hydref, ac maent wedi ystyried nodyn cyngor y Bwrdd, sef Yr Iaith Gymraeg, Technoleg a Chyfieithu.

·         caffael system cof cyfieithu. Yn ogystal â hwyluso gwaith cyfieithu’n gyffredinol, gellir defnyddio system cof cyfieithu WordFastPro hefyd i ategu mwyafrif y systemau cyfieithu peirianyddol.

·    profi dwy system gyfieithu beirianyddol ar-lein, sef Google Translate a Google Translate Toolkit.

·         datblygu opsiynau ar gyfer darparu Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog. Roedd yr opsiynau hyn wedi’u seilio ar gyfartaledd o 36,000 o eiriau, wedi’u cwblhau o fewn pum diwrnod gwaith gan ddefnyddio system gyfieithu beirianyddol Google Translate Toolkit gyda WordFastPro, golygu gan gyfieithydd proffesiynol a phrawfddarllen at ddibenion sicrhau ansawdd.

3.4        Ar sail ein hymchwil a chanlyniadau ein profion, rydym yn cyfrif mai cost flynyddol cynhyrchu Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog fydd tua £95k.

3.5        Dangosodd ein hymchwiliadau, felly, y gallwn ddarparu Cofnod o Drafodion y Cyfarfod Llawn cwbl ddwyieithog o fewn pum diwrnod gwaith, drwy drefniant sy’n gynaliadwy yn y tymor hwy, ac am gost resymol. Rydym yn argymell bod y trefniadau ar waith o fis Ionawr 2012 ymlaen.

*Peidiodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg â bod ar 1 Ebrill 2012. Gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg y mae’r cyfrifoldeb dros yr adroddiad bellach.  Hyd yn hyn (Ebrill 2012), nid yw’r gwaith wedi’i orffen.

 

·         Crynodeb o ymatebion staff i’r ymgynghoriad

Cafodd ymatebion staff eu hymgorffori yn yr adran.

 

4.0   Ymgynghoriad ar y Bil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog Drafft.

4.1   Lansiwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Fil (drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog drafft yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar 3 Awst 2011 a daeth i ben ar 14 Hydref.

4.2   Yn ystod y cyfnod hwn:

·         cysylltwyd â 587 o sefydliadau yn uniongyrchol ynglŷn â’r broses ymgynghori;

·         lansiwyd ymgyrch yn y cyfryngau i roi cyhoeddusrwydd i’r ymgynghoriad a sicrhaodd sylw cadarnhaol a chywir, gan gynnwys erthyglau barn gan Rhodri Glyn Thomas yn 'Golwg' a Keith Bush yn y Western Mail;

·         daeth dros 60 o gynrychiolwyr i gyfarfodydd â rhanddeiliaid a oedd yn ceisio cynorthwyo ac annog y rhai oedd yn bresennol i gyflwyno ymatebion ysgrifenedig, llawn ac ystyrlon i’r ymgynghoriad;

·         cynhaliwyd 13 o gyfarfodydd staff i roi cyfle i staff ystyried effaith y cynllun ar ddarparu gwasanaethau a rhoi eu sylwadau ar hyn, a

·         chynhaliwyd cyfarfod rhagarweiniol â rheolwyr y grwpiau plaid i amlinellu egwyddorion y Bil a’r Cynllun.

4.3   Gofynnodd y Comisiwn am farn pobl ar y Bil a’r Cynllun. Dyma grynodeb o’r ymatebion:

·         cafwyd 59 o ymatebion ysgrifenedig i’r ymgynghoriad cyhoeddus;

·         nid oedd dau, sef Senedd Canada a Threnau Arriva Cymru, wedi mynegi barn ar y Bil na’r Cynllun;

·         o’r 57 arall, roedd 50 yn uniaith Gymraeg a saith yn uniaith Saesneg;

·         roedd 40 wedi’u seilio ar ymateb templed a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ei gwefan; ac

·         yn gyffredinol, gwnaed sylwadau ar y Cynllun a’r Bil gyda’i gilydd, yn hytrach nag ymateb i gwestiynau penodol yr ymgynghoriad  (Atodiad A).  Roedd yr ymatebion yn Gymraeg yn cytuno â’r Cynllun a/neu’r Bil neu’n dymuno eu cryfhau. Ar y llaw arall, ac eithrio un ymateb, roedd y rhai uniaith Saesneg yn erbyn y Cynllun a’r Bil (ac yn wir yn erbyn darpariaeth ddwyieithog yn gyffredinol).

4.4   Roedd yr ymatebion a gafwyd gan y cyhoedd yn cefnogi egwyddorion y Bil drafft a’r Cynllun arfaethedig yn gyffredinol. Ar wahân i chwe ymatebwr, roedd pob ymateb naill ai’n cymeradwyo egwyddorion y pecyn neu, trwy ofyn i ddarpariaethau manwl penodol gael eu cryfhau ymhellach, yn awgrymu eu bod yn cefnogi’r egwyddorion hynny yn gryf.

 

4.5   Roedd y themâu a nodwyd ac a drafodwyd mewn cyfarfodydd a digwyddiadau â rhanddeiliaid yn adlewyrchu’r themâu a welwyd yn yr ymatebion ysgrifenedig a ddaeth i law.

 

4.6   Mynegodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei fod yn cefnogi egwyddorion y Bil a’r Cynllun, ac ar yr un pryd gwnaed nifer o gynigion manwl ganddynt ar gyfer gwneud newidiadau penodol.

4.7   Roedd yr ymgynghoriad â staff ac ymatebion staff yn canolbwyntio ar faterion ymarferol penodol ond fe’u crynhowyd er mwyn llywio’r broses o gynllunio ar gyfer darpariaethau’r Bil a’r Cynllun a’u rhoi ar waith, a bydd hyn yn cyd-daro â’r adeg pan fydd y Cynulliad yn ystyried y ddwy ddogfen.

Bydd rhagor o ymgynghori â staff o’r wythnos yn dechrau 30 Ebrill.